Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:05 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Rob Hepworth, Yr Ymgyrch yn erbyn Llosgydd Casenewydd a Sir Fynwy Haydn Cullen Jones, Yr Ymgyrch yn erbyn Llosgydd Casenewydd a Sir Fynwy Tim Maddison, Y Rhwydaith yn erbyn Llosgyddion yn Ne Cymru Dr Tim Peppin, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Rob Quick, Prosiect Gwyrdd Mike Williams, Prosiect Gwyrdd Matthew Farrow, Y Gymdeithas Gwasanaethau Julie Barratt, Sefydliad Siartredig lechyd yr Amgylchedd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Jasper Roberts, Llywodraeth Cymru Dr Andy Rees, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Diolchodd y Cadeirydd i Joyce Watson am gadeirio’r cyfarfod ar 13 Mawrth.
2. Trafod y dystiolaeth a gafwyd ynghylch P-04-335 Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru
Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb i’r ohebiaeth a anfonwyd at Cricket Scotland a Cricket Ireland.
3. Deisebau newydd
3.1 P-04-371 Tocynnau teithio rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus i bob plentyn hyd at 18 oed
3.2 P-04-382 Costau teithio i fyfyrwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus
Cafodd deisebau P-04-371 a P-04-382 eu grwpio ar gyfer eu trafod, a bu’r Pwyllgor yn eu trafod am y tro cyntaf.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor:
I wirio a yw’r Gweinidog ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch deisebau tebyg;
I dynnu sylw’r Gweinidog at y deisebau pellach hyn;
I edrych ar ddyddiadau ymweliad y Pwyllgor â’r gogledd i weld a fyddai’n bosibl clywed tystiolaeth gan fyfyrwyr fel rhan o’r ymweliad hwnnw.
3.3 P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog.
3.4 P-04-379 Diwrnod Coffáu Hil-laddiad yr Armeniaid
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn y mater gan ei fod wedi llofnodi Datganiad Barn Ysgrifenedig am y pwnc.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Prif Weinidog i ohebiaeth y Pwyllgor am y mater.
3.5 P-04-380 Dewch yn ôl â'n bws! Deiseb yn erbyn diddymu'r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor:
I aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Pwyllgor am y mater;
Ysgrifennu at Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (TraCC) am y mater.
3.6 P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Cadeirydd am y mater.
3.7 P-04-383 Yn erbyn dynodiad Parth Perygl Nitradau ar gyfer Llyn Llangors
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Cadeirydd am y mater.
4. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-04-354 Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth yn ymwneud â’r mater hwn.
Cam i’w gymryd
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd a chytunodd i aros am ymateb gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol.
4.2 P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a’r Deisebydd.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor:
I ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo gynnwys eglwysi annibynnol yn nhrafodaethau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen;
I ofyn i’r Gweinidog pryd fydd cyfarfodydd cyhoeddus am y Bil Treftadaeth yn cael eu cynnal a hysbysu’r deisebydd;
Ysgrifennu at Cadw am y mater.
4.3 P-04-356 Galwad i’r materion a osodwyd yn yr adroddiad ar bêl-droed yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2007 gael eu hadolygu
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i gynghori’r deisebydd i gyflwyno ei sylwadau i ymgynghoriad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar bêl-droed yng Nghymru, ac i gau’r ddeiseb.
4.4 P-03-124 Cysgliad
Bu’r Pwyllgor yn ystyried datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i anfon copi o drawsgrifiad cyfarfod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a gynhaliwyd ar 21 Mawrth at y deisebydd a chau’r ddeiseb.
4.5 P-04-348 Targedau ailgylchu ar gyfer byrddau iechyd
4.6
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a’r deisebydd.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan nad yw’r targed a gyhoeddwyd gan y Gweinidog yn un statudol, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
4.7 P-04-359 Problemau gyda’r GIG ar gyfer y byddar
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac un ymateb i’r ymgynghoriad.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn iddo gadw golwg ar y mater, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
4.8 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Datganodd Joyce Watson fuddiant yn y ddeiseb gan ei bod wedi ymgymryd â gwaith ar y mater yn flaenorol.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir Ceredigion, fel yr awgrymwyd gan y Dirprwy Weinidog.
4.9 P-04-353 Ymgyrch yn erbyn troseddau casineb yng Nghymru
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, sef y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb o ystyried gwaith y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y mater hwn,
a’i ymrwymiad i gadw golwg ar y mater.
5. P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.
6. P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor:
I ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am y datganiad gan Grŵp Gweithredu Unedig y Cymoedd (UVAG) bod Llywodraeth Cymru wedi atal cais y cyngor i gaffael triniaeth fiolegol fecanyddol a bod pwysau ariannol arno i ymuno a’r Prosiect Gwyrdd;
Anfon datganiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef bod elfen o losgi ynghlwm â phob dull o ymdrin â gwastraff, ymlaen at y deisebwyr i gael eu barn arno.
Cytunodd cynrychiolwyr y Prosiect Gwyrdd i anfon manylion ynghylch faint o dunelli o ludw peryglus sy’n gorfod cael ei drosglwyddo o ganlyniad i losgi ac a oes unrhyw losgyddion sy’n cael eu cau yn yr Unol Daleithau yr un math â’r rhai sy’n cael eu hadeiladu yng Nghymru.
7. P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y
Pwyllgor i gomisiynu ymchwil i weld a fyddai cyrraedd targedau
ailgylchu’n golygu llosgi llai o wastraff, a all arwain at
gosbau ariannol os nad oes gan losgyddion ddigon o wastraff
i’w losgi.
8. P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar
Bu’r Gweinidog a’i swyddogion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.
Cam i’w gymryd
Yn dilyn ei
rôl flaenorol fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol
Caerffili, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lindsay Whittle AC i
ofyn iddo am brofiad Caerffili o ran y Prosiect Gwyrdd.
9. Papurau i'w nodi
9.1 P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove
9.2 P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus
9.3 P-04-358 Ailgyflwyno cymorth cartref ar gyfer plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig a'u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.